Orion (mytholeg)

Engrafiad o Orion gan Johann Bayer's Uranometria, 1603 (Llyfrgell US Naval Observatory)

Ym mytholeg Groeg, roedd Orion (Groeg yr Henfyd: Ὠρίων[1] neu Ὠαρίων, Lladin: Orion[2]) yn gawr o heliwr a osodwyd gan Zeus ymhlith y sêr fel y cytser Orion.

Dywed ffynonellau hynafol am nifer o straeon gwahanol am Orion; mae dau brif fersiwn o ei enedigaeth ac mae sawl fersiwn o'i farwolaeth. Mae'r penodau pwysicaf yn cofnodi ei enedigaeth rhywle yn Boeotia, ei ymweliad â Chios lle y cyfarfu Merope ac ar ôl iddo ei threisio, yn cael ei ddallu gan ei thad, Oenopion, yna adfer ei olwg yn Lemnos, ei hela gyda Artemis ar Creta, ei farwolaeth gan fwa Artemis neu gan bigiad y sgorpion mawr a ddaeth yn Scorpio, a'i ddyrchafiad i'r nefoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r ffynonellau hynafol yn hepgor rhai o'r cyfnodau hyn ac mae nifer yn adrodd dim ond un. Gall yr amrywiad ddigwyddiadau hyn yn wreiddiol fod yn ddigwyddiadau ar wahan a chwbl ddi-gyswllt, ac mae'n amhosib i ddweud os yw'r hepgoriadau yn fyrder syml neu'n cynrhychioli anghytuno go iawn. 

Mewn llenyddiaeth Groegaidd mae Orion yn ymddangos gyntaf fel heliwr mawr yn epig Homer yr Odyssey, lle mae Odysseus yn gweld ei gysgod yn y isfyd. Mae esgyrn moel hanes Orion yn cael eu adrodd gan gasglwyr mythau Helenistaidd a Rhufeinig, ond nid oes fersiwn llenyddol o'i anturiaethau'n bodoli a all, er enghraifft, gael eu cymharu â hynny sydd ar gael o hanes Jason yn Apolonius Rhodes' Argonautica neu Euripides' Medea; y cofnod yn Ovid 'Fasti ar gyfer Mai'r 11fed' yw'r gerdd ar enedigaeth Orion, ond dyna un fersiwn o un hanes. Mae'r darnau o chwedl sydd wedi goroesi wedi ei ddarparu maes ffrwythlon ar gyfer dyfalu am y cyfnod cynhanesyddol a mytholeg Groegaidd.

Gwasanaethodd Orion nifer o rolau mewn diwylliant Groeg hynafol. Yr hanes am anturiaethau o Orion, yr heliwr, yw'r un lle rydym yn cael y rhan fwyaf o'r dystiolaeth (a hyd yn oed ar hynny nid oes fawr iawn); ef hefyd yw personoliad y cytser o'r un enw; fe'i mawrygwyd fel arwr, yn yr ystyr Groegaidd, yn ardal Boeotia; ac y mae yn un darn achosegol sy'n dweud mai Orion oedd yn gyfrifol ffurf presennol Culfor Sisili.

  1. Genitive case: Ὠρίωνος.
  2. The Latin transliteration Oarion of Ὠαρίων is found, but is quite rare.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search